Beth yw Enw Parth Rhyngrwyd?
Mae gan defnyddwyr y Rhyngrwyd enwau unigryw er mwyn gallu gwahaniaethu rhyngddynt a defnyddwyr eraill. Gelwir yr enwau hyn yn Enwau Parth.
Er enghraifft, yn y cyfeiriad e-bost: prifathro@enwysgol.ardal.sch.uk, yr Enw Parth yw enwysgol.ardal.sch.uk.
Yn y cyfeiriad safle ar y we: http://www.enwysgol.ardal.sch.uk/cyrsiau.html, yr Enw Parth yw enwysgol.ardal.sch.uk.
Pam fod angen Enw Parth ar eich ysgol?
Mae'r defnydd o ddulliau cyfathrebu electronig yn cynyddu'n gyflym, ac mae Enw Parth cofrestredig yn arf gwerthfawr dros ben. Bydd yn galluogi eich ysgol i arddangos gwybodaeth ar y We Fyd Eang, a bydd unrhyw un sydd â mynediad i'r Rhyngrwyd yn gallu darllen y wybodaeth yna (fel prosbectws), neu fel arall gellir ei ddefnyddio i anfon a derbyn gohebiaeth e-bost bersonol.
Sut mae Enwau Parth yn cael eu dyrannu i ysgolion?
Nod prosiect Enwau Ysgolion ar y Rhyngrwyd yw rhesymoli strwythur presennol Enwau Parth ysgolion. Lluniwyd cynllun enwi cenedlaethol newydd ac erbyn diwedd 2002 rhagwelir y bydd gan bob ysgol yng Nghymru Enw Parth cyfatebol.
Oherwydd fod gan lawer o'r 2,000 o ysgolion yng Nghymru enwau tebyg, os nad union yr un fath, mae'n anodd osgoi dyblygu Enwau Parth (a byddai hynny'n achosi i'r system fethu). Felly mae pob ysgol wedi derbyn Enw Parth sy'n diweddu gyda .sch.uk sydd wedi'i gysylltu hefyd gydag ardal ddaearyddol berthnasol. Bydd yr ardal ddaearyddol yn ymddangos yn yr Enw Parth, gan ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr y Rhyngrwyd wahaniaethu rhwng ysgolion gwahanol a dod o hyd i'r manylion y maen nhw'n chwilio amdanynt.
Sut mae Enw Parth .sch.uk yn cael ei lunio?
Fel y gwelwch o'r Enw Parth a ddyrannwyd i chi, mae pob un yn cynnwys rhestr o eiriau sy'n cychwyn naill ai gydag enw llawn neu fersiwn talfyredig o <enw eich ysgol> yna nodir yr <ardal ddaearyddol> ddynodedig ac yn dilyn hynny cofnodir .sch.uk. Atalnodir pob rhan gydag atalnod llawn.
Sut fydd yr Enw Parth yn gweithio?
Ni fydd cofrestru Enw Parth o reidrwydd yn rhoi eich ysgol ar y Rhyngrwyd. Bydd angen i chi hefyd sefydlu cyswllt Rhyngrwyd er mwyn defnyddio'r Enw Parth: mater hawdd yw gwneud hyn trwy Ddarparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) ond fe fydd y Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd yn codi tâl am y gwasanaeth yma.
Os hoffech dderbyn cyngor gan Becta ar ddewis Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd dylech nodi hynny ar y ffurflen ateb.
Beth os yw eich ysgol wedi cofrestru Enw Parth yn barod?
Os oes gan eich ysgol Enw Parth yn barod, efallai ei fod yn cyfateb i'r enw a ddyrennir o dan y cynllun enwi cenedlaethol newydd. Dylech lenwi a dychwelyd y ffurflen Ateb os yw'n cyfateb neu beidio er mwyn cofrestru eich Enw Parth newydd, ond dylech gynnwys eich manylion Cofrestru presennol. Yn yr hir dymor fe'ch cynghorir i newid eich Enw Parth presennol i'r un a ddyrannwyd o dan y cynllun newydd. Dylech gysylltu â Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd yngl?n â newid eich Enw Parth.
Defnyddio'r Rhyngrwyd yn ddiogel
Mae angen i athrawon a rhieni fod yn ofalus wrth ganiatáu mynediad at y Rhyngrwyd i blant. Er hynny, ni ddylai'r perygl posib o ddeunydd anweddus atal eich disgyblion rhag defnyddio'r dechnoleg. Mae manteision addysgol dysgu drwy'r Rhyngrwyd yn gwrthbwyso unrhyw beryglon posib. Am fwy o wybodaeth ewch i safle Diogelwch ar Draffordd Gwybodaeth yn http://www.safety.ngfl.gov.uk.
Beth i'w wneud nesaf?
Cwblhewch y gwaith o Gofrestru Enw Parth newydd eich ysgol trwy ddychwelyd y ffurflen ateb sydd ynghlwm yn yr amlen a ddarparwyd. Fel arall gallwch gofrestru ar y Rhyngrwyd trwy gael mynediad at ffurflen gais ar safle http://www.nominet.org.uk/schools/reply-card/ gan nodi'r cyfeirnod unigryw sydd wedi'i argraffu ar dudalen flaen y llythyr hwn.
Os ydych yn ansicr ynghylch sut i fynd ati i lenwi'r ffurflen Ateb, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau yngl?n â Chofrestru Enw Parth eich ysgol, ffoniwch y Tîm Cefnogi Ysgolion ar 01865 332289.
Er mwyn sicrhau bod eich Enw Parth yn cael ei gofrestru, mae'n rhaid dychwelyd pob ymateb erbyn 1 Hydref 2002.
Gwybodaeth Bellach
Nominet UK
Mae Nominet UK yn rheoli Cronfa Ddata Gofrestru pob Enw Parth Rhyngrwyd sy'n diweddu gyda .uk. Cwmni nad yw'n gwneud elw ydyw a sefydlwyd ym 1996.
| Cyswllt: | Minerva House, Edmund Halley Road, Oxford Science Park, Oxford OX4 4DQ |
| Ffôn | 01865 332244 Switsfwrdd: 01865 332211 |
| Cyfeiriad safle ar y we: | http://www.nominet.org.uk |
Asiantaeth Cyfathrebu a Thechnoleg Addysg Prydain (Becta)
Gwaith Asiantaeth Cyfathrebu a Thechnoleg Addysg Prydain (Becta) yw sicrhau bod technoleg yn cefnogi'r ymgyrch i godi safonau addysgol. Nod Becta yw darparu'r arbenigedd proffesiynol i gefnogi datblygiad y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu yn y dyfodol. Corff sy'n gweithredu ar draws y DU yw Becta ac mae'n gweithio'n agos gyda'r adrannau llywodraeth perthnasol led led gwledydd y DU.
Cyfeiriad safle ar y we: http://www.becta.org.uk
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Adran Hyfforddiant ac Addysg
Cyfeiriad safle ar y we: http://www.wales.gov.uk